1 Roedd yna ddyn yn perthyn i lwyth Benjamin o'r enw Cish. Roedd yn ddyn pwysig; yn fab i Abiel, mab Seror, mab Becorath, mab Affeia.
2 Roedd gan Cish ei hun fab o'r enw Saul, oedd yn ddyn ifanc arbennig iawn. Doedd neb tebyg iddo yn Israel gyfan. Roedd yn dalach na phawb arall.
3 Roedd rhai o asennod Cish, tad Saul, wedi mynd ar goll. A dyma Cish yn dweud wrth Saul, “Cymer un o'r gweision hefo ti, a dos i chwilio am yr asennod.”
4 Felly dyma Saul a'r gwas yn croesi bryniau Effraim drwy ardal Shalisha, ond methu dod o hyd iddyn nhw. Ymlaen wedyn drwy ardal Shaalîm, ac yna drwy ardal Benjamin, ond dal i fethu dod o hyd iddyn nhw.
5 Pan ddaethon nhw i ardal Swff, dyma Saul yn dweud wrth y gwas, “Well i ni fynd yn ôl adre. Bydd dad wedi anghofio am yr asennod a dechrau poeni amdanon ni.”