2 Roedd gan Cish ei hun fab o'r enw Saul, oedd yn ddyn ifanc arbennig iawn. Doedd neb tebyg iddo yn Israel gyfan. Roedd yn dalach na phawb arall.
3 Roedd rhai o asennod Cish, tad Saul, wedi mynd ar goll. A dyma Cish yn dweud wrth Saul, “Cymer un o'r gweision hefo ti, a dos i chwilio am yr asennod.”
4 Felly dyma Saul a'r gwas yn croesi bryniau Effraim drwy ardal Shalisha, ond methu dod o hyd iddyn nhw. Ymlaen wedyn drwy ardal Shaalîm, ac yna drwy ardal Benjamin, ond dal i fethu dod o hyd iddyn nhw.
5 Pan ddaethon nhw i ardal Swff, dyma Saul yn dweud wrth y gwas, “Well i ni fynd yn ôl adre. Bydd dad wedi anghofio am yr asennod a dechrau poeni amdanon ni.”
6 Ond meddai'r gwas wrtho, “Mae yna ddyn sy'n proffwydo yn byw y dre acw. Mae parch mawr ato, am fod popeth mae'n ei ddweud yn dod yn wir. Gad i ni fynd i'w weld e. Falle y bydd e'n gallu dweud wrthon ni pa ffordd i fynd.”
7 “Iawn,” meddai Saul, “ond be rown ni iddo? Does gynnon ni ddim bwyd ar ôl hyd yn oed, a dim byd arall i'w gynnig iddo.”
8 Dyma'r gwas yn dweud, “Edrych mae gen i un darn arian bach – dydy e'n ddim llawer, ond gwna i roi hwn i'r proffwyd am ddweud wrthon ni ble i fynd.”