24 A dyma'r cogydd yn dod â darn uchaf y goes a'i osod o flaen Saul. Ac meddai Samuel, “Mae'r darn yna i ti – mae wedi ei gadw i ti. Bwyta fe, achos pan o'n i'n gwahodd pobl yma, dwedais fod hwn i gael ei gadw ar dy gyfer di.” Felly dyma Saul yn bwyta gyda Samuel y diwrnod hwnnw.
25 Wedi iddyn nhw ddod yn ôl o'r allor i'r dre, buodd Samuel yn siarad yn breifat gyda Saul ar do fflat y tŷ.
26 Ben bore wedyn, pan oedd hi'n gwawrio, dyma Samuel yn galw ar Saul, oedd ar y to: “Cod, i mi dy anfon di ar dy ffordd.” Felly dyma Saul yn codi, a dyma fe a'i was yn mynd allan hefo Samuel.
27 Pan ddaethon nhw i gyrion y dre, dyma Samuel yn dweud wrth Saul, “Dywed wrth dy was am fynd yn ei flaen. Dw i eisiau i ti aros i mi roi neges gan Dduw i ti.”