1 Ar ôl i Saul farw, a Dafydd newydd orchfygu'r Amaleciaid a mynd yn ôl i Siclag, roedd wedi bod yno am ddeuddydd
2 pan ddaeth dyn ato y diwrnod wedyn o wersyll Saul. Roedd y dyn wedi rhwygo'i ddillad a rhoi pridd ar ei ben. Dyma fe'n dod at Dafydd a mynd ar ei liniau ac ymgrymu o'i flaen.
3 “O ble rwyt ti wedi dod?” gofynnodd Dafydd. A dyma fe'n ateb, “Wedi dianc o wersyll Israel ydw i.”
4 “Dywed wrtho i, beth sydd wedi digwydd?” holodd Dafydd. A dyma'r dyn yn dweud wrtho, “Roedd rhaid i filwyr Israel ffoi, a cafodd llawer ohonyn nhw eu hanafu a'u lladd. Mae Saul a'i fab Jonathan wedi eu lladd hefyd!”
5 A dyma Dafydd yn gofyn iddo, “Sut wyt ti'n gwybod fod Saul a Jonathan wedi marw?”