2 Samuel 23 BNET

Geiriau olaf Dafydd

1 Dyma eiriau olaf Dafydd:“Neges Dafydd fab Jesse.Neges yr un gafodd ei godi'n arweinydd,a'i eneinio gan Dduw Jacob.Neges hoff ganwr Israel.

2 Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD yn siarad trwof fi;ei neges e oeddwn i'n ei rhannu.

3 Mae Duw Israel wedi siarad.Dyma mae Craig Israel yn ei ddweud:‘Mae'r un sy'n llywodraethu'n deg,gan roi parch i Dduw,

4 fel golau haul ar fore braf digwmwlyn gwneud i'r glaswellt dyfu o'r ddaeara sgleinio ar ôl y glaw.’

5 Ie, dyna sut mae Duw'n gweld fy nheulu!Mae wedi gwneud ymrwymiad am byth i mi.Mae'r cwbl wedi ei drefnu – mae'n siŵr o ddigwydd!Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i mi lwyddoac yn dod â'r cwbl dw i eisiau yn wir.

6 Ond mae dynion drwg fel drainsy'n dda i ddim ond i'w torri i lawr.Does neb yn gafael ynddyn nhw â'u dwylo,

7 dim ond gydag arf haearn neu goes gwaywffon.Mae tân yn eu llosgi'n ulw yn y fan a'r lle!”

Milwyr dewr Dafydd

8 Dyma enwau milwyr dewr Dafydd:Iashofam yr Hachmoniad oedd pennaeth ‛Y Tri‛. Roedd e wedi lladd wyth gant o ddynion gyda'i waywffon mewn un frwydr.

9 Yna'r nesa ato fe o'r ‛Tri Dewr‛ oedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach. Roedd e gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Roedd gweddill byddin Israel wedi ffoi,

10 ond dyma fe'n sefyll ei dir ac ymladd yn erbyn y Philistiaid. Roedd ei law wedi blino gymaint, ond wnaeth e ddim gollwng ei gleddyf. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo y diwrnod hwnnw. Yna daeth y fyddin yn ôl, ond dim ond i ddwyn pethau oddi ar y cyrff!

11 Y nesaf wedyn oedd Samma fab Age o deulu Harar. Un tro roedd byddin y Philistiaid wedi casglu yn Lechi lle roedd cae o ffacbys. Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen y Philistiaid,

12 ond roedd Samma wedi sefyll ei dir yng nghanol y cae, i'w amddiffyn. Roedd wedi ymosod ar y Philistiaid, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo.

13 Un tro, adeg y cynhaeaf, aeth tri o'r ‛Tri deg‛ i lawr at Dafydd i Ogof Adwlam. Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm.

14 Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra roedd prif wersyll garsiwn y Philistiaid yn Bethlehem.

15 Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe'n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o'r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!”

16 Felly dyma'r ‛Tri Dewr‛ yn mynd trwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o'r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw'n dod a'r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe'n ei dywallt ar lawr yn offrwm i'r ARGLWYDD,

17 a dweud, “ARGLWYDD, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro eu bywydau i'w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed. (Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‛Tri Dewr‛.)

18 Abishai, brawd Joab a mab Serwia, oedd pennaeth y ‛Tri deg‛. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon un tro. Roedd e'n enwog fel y Tri.

19 I ddweud y gwir roedd yn fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e ddim yn un o'r ‛Tri‛.

20 Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira.

21 Roedd hefyd wedi lladd cawr o ddyn o'r Aifft. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe'n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a'i ladd gyda hi.

22 Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‛Tri Dewr‛.

23 Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o'r ‛Tri‛. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol.

24 Yna gweddill y ‛Tri deg‛ oedd:Asahel, brawd Joab,Elchanan fab Dodo o Bethlehem,

25 Shamma o Charod,Elica o Charod,

26 Chelets o Pelet,Ira fab Iccesh o Tecoa,

27 Abieser o Anathoth,Mefwnnai o Chwsha,

28 Salmon o deulu Achoach,Maharai o Netoffa,

29 Cheleb fab Baana o Netoffa,Itai fab Ribai o Gibea yn Benjamin,

30 Benaia o Pirathon,Hidai o Wadi Gaash,

31 Abi-albon o Arba,Asmafeth o Bachwrîm,

32 Eliachba o Shaalbon,Meibion Iashen,Jonathan fab

33 Shamma o Harar,Achïam fab Sharar o Harar,

34 Eliffelet fab Achasbai o Maacha,Eliam fab Achitoffel o Gilo,

35 Chetsrai o Carmel,Paarai o Arba,

36 Igal fab Nathan o Soba,Bani o Gad,

37 Selec o Ammon,Nachrai o Beëroth (oedd yn cario arfau Joab, mab Serwia),

38 Ira yr Ithriad,Gareb yr Ithriad,

39 ac Wreia yr Hethiad.(Tri deg saith i gyd.)

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24