2 Samuel 9 BNET

Dafydd a Meffibosheth, mab Jonathan

1 Dyma Dafydd yn gofyn, “Oes yna unrhyw un yn dal ar ôl o deulu Saul, i mi fod yn garedig ato fel gwnes i addo i Jonathan?”

2 A dyma ddyn o'r enw Siba oedd wedi bod yn was i Saul yn cael ei alw at Dafydd. Gofynnodd y brenin iddo, “Ti ydy Siba?” Atebodd, “Ie, syr, fi ydy dy was.”

3 Dyma'r brenin yn ei holi, “Oes yna unrhyw un o deulu Saul yn dal yn fyw, i mi fod yn garedig ato fel gwnes i addo o flaen Duw?”Atebodd Siba, “Oes. Mae yna fab i Jonathan sy'n dal yn fyw. Mae e'n anabl. Mae e'n gloff yn ei ddwy droed.”

4 “Ble mae e?” meddai'r brenin.A dyma Siba'n dweud, “Mae e yn Lo-debâr, yn aros gyda Machir fab Ammiel.”

5 Felly dyma'r brenin Dafydd yn anfon i'w nôl o dŷ Machir.

6 Pan ddaeth Meffibosheth (mab Jonathan ac ŵyr Saul) at y brenin Dafydd, dyma fe'n mynd ar ei liniau ac ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr. “Meffibosheth?” meddai Dafydd. Ac atebodd “Ie, syr, dy was di.”

7 “Paid bod ag ofn,” meddai Dafydd wrtho, “Dw i'n mynd i fod yn garedig atat ti, fel gwnes i addo i dy dad Jonathan. Dw i am roi tir dy daid Saul yn ôl i ti, a byddi'n cael bwyta wrth fy mwrdd i yn rheolaidd.”

8 Dyma Meffibosheth yn ymgrymu eto a dweud, “Pwy ydw i? Pam ddylet ti gymryd sylw o gi marw fel fi?”

9 Yna dyma'r brenin yn galw am Siba, gwas Saul. Ac meddai wrtho, “Dw i wedi rhoi popeth oedd piau Saul a'i deulu i ŵyr dy feistr.

10 Dw i eisiau i ti a dy feibion, a dy weision i gyd, ofalu am y tir iddo. Bydd cynnyrch y tir yn fwyd i deulu dy feistr. Ond bydd Meffibosheth yn bwyta wrth fy mwrdd i yn rheolaidd.” (Roedd gan Siba un deg pump o feibion a dau ddeg o weision.)

11 Dyma Siba yn ateb, “Bydd dy was yn gwneud popeth mae fy meistr, y brenin, wedi ei orchymyn.”Felly cafodd Meffibosheth fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd y brenin, fel petai'n un o feibion y brenin ei hun.

12 Roedd gan Meffibosheth fab bach o'r enw Micha. Roedd teulu Siba i gyd, a'i weision, yn gweithio i Meffibosheth.

13 Ond roedd Meffibosheth ei hun yn byw yn Jerwsalem, ac yn cael bwyta'n rheolaidd wrth fwrdd y brenin. Roedd e'n anabl – yn gloff yn ei ddwy droed.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24