2 Samuel 13 BNET

Amnon yn treisio Tamar

1 Yna beth amser wedyn digwyddodd hyn:Roedd gan Absalom, mab Dafydd, chwaer o'r enw Tamar, oedd yn arbennig o hardd. Roedd Amnon, mab arall i Dafydd, yn ei ffansïo hi.

2 Roedd ei deimladau ati mor gryf roedd yn gwneud ei hun yn sâl. Roedd Tamar wedi cyrraedd oed priodi ac yn wyryf, ond doedd Amnon ddim yn gweld unrhyw ffordd y gallai e ei chael hi.

3 Roedd gan Amnon ffrind o'r enw Jonadab (mab Shamma, brawd Dafydd). Roedd Jonadab yn ddyn cyfrwys iawn.

4 Dyma fe'n gofyn i Amnon, “Beth sy'n bod? Ti ydy mab y brenin. Pam wyt ti mor ddigalon drwy'r amser? Wnei di ddim dweud wrtho i beth sydd?” A dyma Amnon yn ateb, “Dw i mewn cariad hefo Tamar, chwaer Absalom.”

5 Yna dyma Jonadab yn dweud wrtho, “Dos i orwedd ar dy wely ac esgus bod yn sâl. Wedyn, pan fydd dy dad yn dod i dy weld, dywed wrtho, ‘Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i wneud bwyd i mi. Gad iddi ei baratoi o'm blaen i, ac wedyn fy mwydo i.’”

6 Felly dyma Amnon yn mynd i'w wely a smalio bod yn sâl. Daeth y brenin i'w weld, a dyma Amnon yn dweud wrtho, “Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i baratoi cacennau sbesial o'm blaen i, ac wedyn fy mwydo i.”

7 Dyma Dafydd yn anfon neges at Tamar yn y palas, yn dweud wrthi am fynd i dŷ ei brawd Amnon i wneud bwyd iddo.

8 A dyma Tamar yn mynd i dŷ Amnon, lle roedd yn gorwedd. Cymerodd does a'i baratoi o'i flaen a'i goginio.

9 Ond pan ddaeth â'r bwyd ato, dyma Amnon yn gwrthod bwyta. Yna dyma fe'n gorchymyn i'w weision “Pawb allan o ma!” a dyma nhw i gyd yn mynd.

10 Wedyn dyma Amnon yn dweud wrth Tamar, “Tyrd â'r bwyd i'r ystafell wely, a gwna i fwyta yno.” Felly dyma Tamar yn mynd â'r bwyd oedd hi newydd ei baratoi at ei brawd Amnon i'r ystafell wely.

11 Ond wrth iddi ei annog i fwyta, dyma fe'n gafael ynddi a dweud, “Tyrd i'r gwely hefo fi, chwaer.”

12 “Na! frawd, paid!” meddai hi. “Paid treisio fi. Dydy pobl Israel ddim yn gwneud pethau fel yna. Paid gwneud peth mor erchyll.

13 Allwn i ddim byw gyda'r cywilydd. A fyddai neb yn Israel yn dy barchu di am wneud peth mor erchyll. Plîs paid. Gofyn i'n tad, y brenin; wnaiff e ddim gwrthod fy rhoi i ti.”

14 Ond doedd Amnon ddim am wrando arni. Roedd yn gryfach na hi, a dyma fe'n ei dal hi i lawr a'i threisio.

15 Ond wedyn dyma fe'n dechrau ei chasáu hi go iawn. Roedd yn ei chasáu hi nawr fwy nag roedd yn ei charu hi o'r blaen. A dyma fe'n dweud wrthi, “Cod! Dos o ma!”

16 Ond dyma Tamar yn ateb, “Na! Plîs paid! Mae fy anfon i ffwrdd nawr yn waeth na beth rwyt ti newydd ei wneud!” Ond doedd e ddim am wrando arni.

17 A dyma fe'n galw ei was ystafell, a dweud wrtho, “Dos â hon allan, a chloi'r drws tu ôl iddi!”

18 Felly dyma'r gwas yn ei thaflu allan, a bolltio'r drws ar ei hôl.Roedd hi mewn gwisg laes (y math o wisg fyddai merched dibriod y brenin yn arfer ei wisgo.)

19 Ond dyma Tamar yn rhwygo'r wisg a rhoi lludw ar ei phen. Aeth i ffwrdd â'i dwylo dros ei hwyneb, yn crïo'n uchel.

20 A dyma Absalom, ei brawd, yn gofyn iddi, “Ydy'r brawd yna sydd gen ti, Amnon, wedi gwneud rhywbeth i ti? Paid dweud dim am y peth gan ei fod yn frawd i ti. Ond paid ti â poeni.” Yna aeth Tamar i aros yn nhŷ ei brawd Absalom, yn unig ac wedi torri ei chalon.

21 Pan glywodd y brenin Dafydd am bopeth oedd wedi digwydd, roedd yn flin ofnadwy.

22 Ond wnaeth Absalom ddweud dim o gwbl wrth Amnon, er ei fod yn ei gasáu am beth wnaeth e i'w chwaer Tamar.

Absalom yn dial ar Amnon

23 Aeth dwy flynedd heibio. Roedd gweision Absalom yn cneifio yn Baal-chatsor, wrth ymyl tref o'r enw Effraim. A dyma Absalom yn gwahodd meibion y brenin i gyd i barti.

24 Aeth at y brenin a dweud, “Mae'r dynion acw'n cneifio. Tyrd aton ni i'r parti, a tyrd â dy swyddogion hefyd.”

25 “Na, machgen i,” meddai'r brenin. “Ddown ni ddim i gyd, neu byddwn yn faich arnat ti.” Er i Absalom bwyso arno, doedd e ddim yn fodlon mynd. Ond dyma fe yn dymuno'n dda iddo.

26 Ond wedyn, dyma Absalom yn dweud, “Os ddoi di dy hun ddim, plîs gad i'm brawd Amnon ddod.”“Pam fyddet ti eisiau iddo fe fynd gyda ti?” holodd y brenin.

27 Ond roedd Absalom yn dal i bwyso arno, ac yn y diwedd dyma'r brenin yn anfon Amnon a'i feibion eraill i gyd. A dyma Absalom yn paratoi parti digon da i frenin.

28 Dwedodd Absalom wrth ei weision, “Gwyliwch Amnon. Dw i eisiau i chi aros nes bydd e ychydig yn chwil. Wedyn pan fydda i'n dweud, lladdwch e! Peidiwch bod ofn. Fi sydd wedi dweud wrthoch chi i wneud hyn. Byddwch yn ddewr!”

29 Felly dyma weision Absalom yn lladd Amnon. A dyma feibion eraill y brenin yn codi, neidio ar eu mulod, a dianc.

30 Tra roedden nhw ar eu ffordd adre, roedd Dafydd wedi clywed si fod Absalom wedi lladd ei feibion e i gyd, a bod dim un ohonyn nhw'n dal yn fyw.

31 Felly cododd y brenin, rhwygo ei ddillad a gorwedd ar lawr. Ac roedd ei weision i gyd yn sefyll o'i gwmpas, wedi rhwygo eu dillad nhw hefyd.

32 Ond dyma Jonadab (mab Shamma, brawd Dafydd) yn dweud, “Syr, paid meddwl fod dy feibion i gyd wedi ei lladd. Dim ond Amnon fydd wedi marw. Mae Absalom wedi bod yn cynllunio hyn ers i Amnon dreisio ei chwaer e, Tamar.

33 Ddylai'r brenin ddim credu'r stori fod ei feibion i gyd wedi eu lladd. Dim ond Amnon sydd wedi marw,

34 a bydd Absalom wedi dianc.”Yna dyma'r gwyliwr oedd ar ddyletswydd yn edrych allan a gweld tyrfa o bobl yn dod heibio'r bryn o gyfeiriad trefi Beth-choron.

35 A dyma Jonadab yn dweud wrth y brenin, “Edrych, dy feibion sy'n dod, fel gwnes i ddweud!”

36 A'r eiliad honno dyma feibion y brenin yn cyrraedd, yn crïo'n uchel. A dyma'r brenin ei hun a'i swyddogion i gyd yn dechrau beichio crïo hefyd.

37 Buodd Dafydd yn galaru am ei fab Amnon am amser hir. Roedd Absalom wedi dianc at Talmai fab Amihwd, brenin Geshwr.

38 Arhosodd yn Geshwr am dair blynedd.

39 Erbyn hynny roedd Dafydd wedi dod dros farwolaeth Amnon, ac yn dechrau hiraethu am Absalom.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24