2 Samuel 21 BNET

Pobl Gibeon yn dial ar ddisgynyddion Saul

1 Yn ystod cyfnod Dafydd fel brenin roedd yna newyn aeth ymlaen am dair blynedd lawn. Dyma Dafydd yn gofyn i'r ARGLWYDD pam. A dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Am fod Saul a'i deulu yn euog o lofruddio pobl Gibeon.”

2 (Doedd pobl Gibeon ddim yn Israeliaid. Nhw oedd yn weddill o'r Amoriaid, ac roedd yr Israeliaid wedi addo byw yn heddychlon â nhw. Ond roedd Saul wedi ceisio cael gwared â nhw am ei fod mor frwd dros Israel a Jwda.)Felly dyma'r Brenin Dafydd yn galw pobl Gibeon ato iddo gael siarad â nhw.

3 Gofynnodd iddyn nhw, “Beth alla i wneud i chi? Sut alla i wneud iawn am hyn, fel eich bod chi yn bendithio pobl yr ARGLWYDD?”

4 A dyma'r Gibeoniaid yn ateb, “Dydy arian byth yn mynd i wneud iawn am beth wnaeth Saul a'i deulu. Ac allwn ni ddim dial drwy ladd unrhyw un yn Israel.” Ond dyma Dafydd yn dweud, “Dwedwch beth ydych chi eisiau.”

5 A dyma nhw'n ateb, “Saul oedd yr un oedd eisiau'n difa ni a chael gwared â ni'n llwyr o Israel.

6 Rho saith o'i ddisgynyddion e i ni. Gwnawn ni eu crogi o flaen yr ARGLWYDD yn Gibea, tref Saul gafodd ei ddewis gan yr ARGLWYDD.” A dyma'r brenin Dafydd yn ateb, “Iawn, gwna i eu rhoi nhw i chi.”

7 Dyma'r brenin yn arbed Meffibosheth (mab Jonathan ac ŵyr Saul) am fod Dafydd a Jonathan wedi gwneud addewid i'w gilydd o flaen yr ARGLWYDD.

8 Ond dyma fe'n cymryd y ddau fab gafodd Ritspa (merch Aia) i Saul, sef Armoni a Meffibosheth. Hefyd pum mab Merab, merch Saul, oedd yn wraig i Adriel fab Barsilai o Mechola.

9 Rhoddodd nhw yn nwylo pobl Gibeon, i'w crogi ar y mynydd o flaen yr ARGLWYDD. Cafodd y saith eu lladd gyda'i gilydd. Roedd hyn reit ar ddechrau'r cynhaeaf haidd.

10-11 Dyma Ritspa (partner Saul a mam dau o'r rhai gafodd eu lladd) yn cymryd sachliain a'i daenu ar graig iddi ei hun. Arhosodd yno drwy gydol y cynhaeaf haidd, hyd nes i dymor y glaw ddod. Wnaeth hi ddim gadael i adar ddisgyn at y cyrff yn ystod y dydd, nac anifeiliaid gwylltion yn y nos.Clywodd Dafydd beth oedd Ritspa wedi ei wneud

12 ac aeth i Jabesh yn Gilead a gofyn i'r awdurdodau yno am esgyrn Saul a Jonathan. (Pobl Jabesh oedd wedi dwyn cyrff y ddau o'r sgwâr yn Beth-shan, lle roedd y Philistiaid wedi eu crogi nhw ar ôl iddyn nhw gael eu ladd yn y frwydr yn Gilboa.)

13 Dyma Dafydd yn cymryd esgyrn Saul a Jonathan o Jabesh. Wedyn dyma nhw'n casglu esgyrn y rhai oedd wedi cael eu crogi,

14 a'i claddu gydag esgyrn Saul a Jonathan ym medd Cish (tad Saul) yn Sela, yn ardal Benjamin.Ar ôl iddyn nhw wneud popeth roedd y brenin wedi ei orchymyn, dyma'r ARGLWYDD yn ateb gweddïau pobl dros y wlad.

Brwydrau rhwng Israel a'r Philistiaid

15 Buodd yna ryfel arall rhwng y Philistiaid a'r Israeliaid. A dyma Dafydd a'i filwyr yn mynd i lawr i ymladd yn erbyn y Philistiaid. Pan oedd Dafydd wedi blino'n lân

16 roedd Ishbi-benob (un o ddisgynyddion y Reffaiaid) ar fin ei ladd. Roedd ei waywffon yn pwyso tair cilogram a hanner, ac roedd ganddo gleddyf newydd.

17 Ond dyma Abishai (mab Serwia) yn dod i helpu Dafydd a taro'r Philistiad a'i ladd. Ar ôl hyn dyma filwyr Dafydd yn tyngu iddo, “Gei di ddim dod allan i frwydro gyda ni eto! Does gynnon ni ddim eisiau i lamp Israel gael ei diffodd!”

18 Beth amser wedyn roedd brwydr arall yn erbyn y Philistiaid, yn Gob. Y tro hwnnw dyma Sibechai o Chwsha yn lladd Saff, un arall o ddisgynyddion y Reffaiaid.

19 Mewn brwydr arall eto yn erbyn y Philistiaid yn Gob, dyma Elchanan fab Jair o Fethlehem yn lladd brawd Goliath o Gath (yr un oedd â gwaywffon gyda choes iddi oedd fel trawst ffrâm gwehydd!)

20 Yna roedd brwydr arall eto yn Gath. Y tro yma roedd cawr o ddyn gyda chwe bys ar bob llaw ac ar ei ddwy droed – dau ddeg pedwar o fysedd i gyd. (Roedd hwn hefyd yn un o ddisgynyddion y Reffaiaid.)

21 Roedd yn gwneud hwyl am ben byddin Israel, a dyma Jonathan, mab Shamma brawd Dafydd, yn ei ladd e.

22 Roedd y pedwar yma gafodd eu lladd yn ddisgynyddion i'r Reffaiaid o Gath, a Dafydd a'i filwyr wnaeth ladd pob un ohonyn nhw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24