1 Dyma'r rhai oedd yn arwain llwythau Israel i gyd yn dod i Hebron at Dafydd, a dweud wrtho, “Edrych, dŷn ni'n perthyn i'n gilydd.
2 Ar un adeg, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yn arwain byddin Israel i ryfel ac yn dod â nhw adre. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthot ti, ‘Ti sydd i ofalu am Israel, fy mhobl i. Ti fydd yn eu harwain nhw.’”
3 Felly pan ddaeth arweinwyr Israel i Hebron at Dafydd, dyma'r brenin yn gwneud cytundeb gyda nhw o flaen yr ARGLWYDD. A dyma nhw'n ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan.
4 Roedd Dafydd yn dri deg oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am bedwar deg o flynyddoedd.
5 Bu'n frenin ar Jwda yn Hebron am saith mlynedd a hanner, ac yna yn frenin yn Jerwsalem ar Jwda ac Israel gyfan am dri deg tair o flynyddoedd.
6 Aeth y brenin a'i filwyr i Jerwsalem i ymladd yn erbyn y Jebwsiaid (y bobl oedd yn byw yn yr ardal honno.) “Ddoi di byth i mewn yma!” medden nhw “Byddai hyd yn oed pobl ddall a chloff yn gallu dy droi di'n ôl!” Doedden nhw ddim yn credu y gallai Dafydd eu gorchfygu nhw.
7 Ond llwyddodd Dafydd i ennill caer Seion (sef Dinas Dafydd).
8 Roedd wedi dweud y diwrnod hwnnw, “Y ffordd mae rhywun yn mynd i goncro'r Jebwsiaid ydy drwy fynd i fyny'r siafft ddŵr. Dyna sut mae ymosod ar y ‛bobl ddall a chloff‛ yna sy'n casáu Dafydd gymaint.” (A dyna sydd tu ôl i'r dywediad, “Dydy'r dall a'r cloff ddim yn cael mynd i mewn i'r tŷ.”)
9 Aeth Dafydd i fyw i'r gaer, a'i galw yn Ddinas Dafydd. Dyma fe'n adeiladu o'i chwmpas o'r terasau at y palas.
10 Roedd Dafydd yn mynd yn fwy a mwy pwerus, achos roedd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, gydag e.
11 Dyma Hiram, brenin Tyrus, yn anfon negeswyr at Dafydd. Anfonodd seiri coed a seiri maen gyda nhw, a coed cedrwydd, i adeiladu palas i Dafydd.
12 Roedd Dafydd yn gweld mai'r ARGLWYDD oedd wedi ei wneud yn frenin ar Israel, ac wedi gwneud i'w deyrnas lwyddo'n fawr er mwyn ei bobl Israel.
13 Wedi iddo symud o Hebron i Jerwsalem dyma Dafydd yn cymryd mwy o gariadon a gwragedd, ac yn cael mwy o blant eto.
14 Dyma enwau'r plant gafodd eu geni iddo yn Jerwsalem: Shammwa, Shofaf, Nathan, Solomon,
15 Ifchar, Elishwa, Neffeg, Jaffia,
16 Elishama, Eliada ac Eliffelet.
17 Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi cael ei eneinio'n frenin ar Israel, dyma eu byddin gyfan yn mynd allan i chwilio amdano. Clywodd Dafydd am hyn, ac aeth i lawr i'r gaer.
18 Roedd byddin y Philistiaid wedi cyrraedd; roedden nhw ym mhobman drwy Ddyffryn Reffaïm.
19 Dyma Dafydd yn gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylwn i fynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid? Fyddi di'n gwneud i mi ennill?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, achos bydda i yn rhoi'r Philistiaid i ti.”
20 Felly aeth Dafydd i Baal-peratsîm a'u trechu nhw yno. “Mae Duw wedi gwneud i mi dorri trwy fy ngelynion fel llifogydd o ddŵr,” meddai. A dyna pam wnaeth e alw'r lle hwnnw yn Baal-peratsîm.
21 Roedd y Philistiaid wedi gadael eu heilun-dduwiau ar ôl, felly dyma Dafydd a'i ddynion yn eu cymryd nhw i ffwrdd.
22 Ond dyma'r Philistiaid yn ymosod eto. Roedden nhw ym mhobman drwy Ddyffryn Reffaïm.
23 A dyma Dafydd yn mynd i ofyn eto i'r ARGLWYDD beth i'w wneud. Y tro yma cafodd yr ateb, “Paid ymosod arnyn nhw o'r tu blaen. Dos rownd y tu ôl iddyn nhw ac ymosod o gyfeiriad y coed balsam.
24 Pan fyddi'n clywed sŵn cyffro yn y coed, gweithreda ar unwaith. Dyna'r arwydd fod yr ARGLWYDD yn mynd o dy flaen di i daro byddin y Philistiaid.”
25 Felly dyma Dafydd yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho, a taro'r Philistiaid yr holl ffordd o Geba i gyrion Geser.