11 Dyma Dafydd yn rhwygo ei ddillad; a dyma'r dynion oedd gydag e yn gwneud yr un fath.
12 Buon nhw'n galaru ac yn wylo ac ymprydio drwy'r dydd dros Saul a'i fab Jonathan, a dros fyddin yr ARGLWYDD, pobl Israel oedd wedi cael eu lladd yn y frwydr.
13 Dyma Dafydd yn gofyn i'r dyn ifanc oedd wedi dod â'r neges iddo, “Un o ble wyt ti?”“Mab i Amaleciad wnaeth symud yma i fyw ydw i,” atebodd y dyn.
14 “Sut bod gen ti ddim ofn lladd y dyn roedd yr ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin?” meddai Dafydd.
15 Yna dyma Dafydd yn galw un o'i filwyr, a dweud wrtho, “Tyrd yma. Lladd e!” A dyma'r milwr yn ei ladd yn y fan a'r lle.
16 Roedd Dafydd wedi dweud wrtho, “Arnat ti mae'r bai dy fod ti'n mynd i farw. Ti wedi tystio yn dy erbyn dy hun drwy ddweud mai ti laddodd yr un roedd yr ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin.”
17 Dyma Dafydd yn cyfansoddi'r gân yma i alaru am Saul a'i fab Jonathan.