19 Mae ysblander Israel yn gorwedd yn farw ar ei bryniau.O, mae'r arwyr dewr wedi syrthio!
20 Peidiwch dweud am y peth yn Gath,peidiwch sôn am hyn ar strydoedd Ashcelon –rhag i ferched y Philistiaid orfoleddu,a merched y paganiaid ddathlu.
21 Boed dim mwy o wlith a glaw ar fynyddoedd Gilboa!Dim mwy o gnydau'n tyfu yno!Dyna lle cafodd tariannau'r arwyr eu baeddu;mae tarian Saul yn dirywio, heb ei rhwbio ag olew.
22 Roedd bwa saeth Jonathan bob amser yn tynnu gwaedac yn taro cnawd milwyr y gelyn.Doedd cleddyf Saul byth yn dod yn ôl yn lân.
23 Saul a Jonathan –mor annwyl, mor boblogaidd!Gyda'i gilydd wrth fyw ac wrth farw!Yn gyflymach nag eryrod,yn gryfach na llewod.
24 Ferched Israel, wylwch am Saul.Fe oedd yn rhoi dillad drud i chia thlysau aur i'w haddurno.
25 Mae'r arwyr dewr wedi syrthio'n y frwydr.Mae Jonathan yn gorwedd yn farw ar y bryniau.