5 A dyma Dafydd yn gofyn iddo, “Sut wyt ti'n gwybod fod Saul a Jonathan wedi marw?”
6 A dyma fe'n dweud, “Roeddwn i ar Fynydd Gilboa, a dyma fi'n digwydd dod ar draws Saul yn pwyso ar ei waywffon. Roedd cerbydau rhyfel a marchogion y gelyn yn dod yn agos ato.
7 Trodd rownd, a dyma fe'n fy ngweld i a galw arna i. ‘Dyma fi,’ meddwn i.
8 ‘Pwy wyt ti?’ gofynnodd. A dyma fi'n ateb, ‘Amaleciad ydw i.’
9 A dyma fe'n crefu arna i, ‘Tyrd yma a lladd fi. Dw i'n wan ofnadwy, a prin yn dal yn fyw.’
10 Felly dyma fi'n mynd draw ato a'i ladd, achos roeddwn i'n gweld ei fod wedi ei anafu'n ddrwg, ac ar fin marw. Yna dyma fi'n cymryd ei goron a'i freichled, a dod â nhw yma i ti syr.”
11 Dyma Dafydd yn rhwygo ei ddillad; a dyma'r dynion oedd gydag e yn gwneud yr un fath.