12 Gad i ni fod yn ddewr! Er mwyn ein pobl, ac er mwyn trefi ein Duw. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud beth mae e'n wybod sydd orau.”
13 Felly dyma Joab a'i filwyr yn mynd allan i ymladd yn erbyn y Syriaid, a dyma'r Syriaid yn ffoi oddi wrthyn nhw.
14 Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn ffoi o flaen Abishai a dianc i mewn i'r ddinas. A dyma Joab yn stopio rhyfela yn erbyn yr Ammoniaid, a mynd yn ôl i Jerwsalem.
15 Roedd y Syriaid yn gweld eu bod wedi colli'r dydd yn erbyn Israel, felly dyma nhw'n casglu at ei gilydd unwaith eto.
16 Dyma Hadadeser yn anfon am y Syriaid oedd yn byw yr ochr draw i Afon Ewffrates, i ddod allan atyn nhw i Chelam. Shofach oedd y cadfridog yn arwain byddin Hadadeser.
17 Pan glywodd Dafydd am hyn, dyma fe'n galw byddin Israel gyfan at ei gilydd. A dyma nhw'n croesi'r afon Iorddonen a dod i Chelam. Roedd y Syriaid wrthi'n gosod eu hunain yn rhengoedd i wynebu byddin Dafydd, a dyma nhw'n dechrau ymladd.
18 Ond dyma fyddin y Syriaid yn ffoi eto o flaen yr Israeliaid. Roedd byddin Dafydd wedi lladd saith gant o filwyr cerbyd y Syriaid, a pedwar deg mil o filwyr traed. Cafodd Shofach, cadfridog byddin y Syriaid, ei ladd yn y frwydr hefyd.