2 Dyma Dafydd yn dweud, “Dw i am fod yn garedig at Chanŵn fab Nachash, am fod ei dad wedi bod yn garedig ata i.” Felly dyma fe'n anfon ei weision i gydymdeimlo â Chanŵn ar golli ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad Ammon,
3 dyma swyddogion y wlad yn dweud wrth eu meistr, “Wyt ti wir yn meddwl mai i ddangos parch at dy dad mae Dafydd wedi anfon y dynion yma i gydymdeimlo? Dim o gwbl! Mae'n debyg ei fod wedi anfon ei weision i ysbïo ac archwilio'r ddinas, er mwyn ei choncro hi!”
4 Felly dyma Chanŵn yn dal gweision Dafydd a siafio hanner barf pob un, a thorri eu dillad yn eu canol, fel bod eu tinau yn y golwg. Yna eu gyrru nhw adre.
5 Pan glywodd Dafydd am hyn, anfonodd ddynion i'w cyfarfod. Roedd arnyn nhw gywilydd garw. Awgrymodd y dylen nhw aros yn Jericho nes bod barf pob un wedi tyfu eto.
6 Dyma bobl Ammon yn dod i sylweddoli fod beth wnaethon nhw wedi ypsetio Dafydd. Felly dyma nhw'n llogi dau ddeg mil o filwyr traed gan y Syriaid yn Beth-rechob a Soba, mil o filwyr gan frenin Maacha, a deuddeg mil o Tob.
7 Pan glywodd Dafydd hyn, dyma fe'n anfon Joab allan gyda milwyr gorau'r fyddin gyfan.
8 Yna dyma'r Ammoniaid yn dod allan a gosod eu byddin yn rhengoedd o flaen giatiau'r ddinas. Ond roedd byddin y Syriaid o Soba a Rechob, a milwyr Tob a Maacha yn paratoi i ymladd ar y tir agored.