1 Yn y gwanwyn, sef yr adeg pan fyddai brenhinoedd yn arfer mynd i ryfela, dyma Dafydd yn anfon Joab a'i fyddin allan. Dyma Joab a'i swyddogion, a holl fyddin Israel, yn mynd ac yn trechu byddin yr Ammoniaid a chodi gwarchae at ddinas Rabba. Ond arhosodd Dafydd yn Jerwsalem.
2 Yn hwyr un p'nawn, dyma Dafydd yn codi ar ôl bod yn gorffwys, a mynd i gerdded ar do fflat y palas. O'r fan honno dyma fe'n digwydd gweld gwraig yn ymolchi. Roedd hi'n wraig arbennig o hardd.
3 Dyma Dafydd yn anfon rhywun i ddarganfod pwy oedd hi, a daeth hwnnw yn ôl gyda'r ateb, “Bathseba ferch Eliam, gwraig Wreia yr Hethiad, ydy hi.”
4 Felly dyma Dafydd yn anfon negeswyr i'w nôl hi. Ac wedi iddi ddod dyma fe'n cael rhyw gyda hi. (Roedd hi newydd fod trwy'r ddefod o buro ei hun ar ôl ei misglwyf.) Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre.