2 Yn hwyr un p'nawn, dyma Dafydd yn codi ar ôl bod yn gorffwys, a mynd i gerdded ar do fflat y palas. O'r fan honno dyma fe'n digwydd gweld gwraig yn ymolchi. Roedd hi'n wraig arbennig o hardd.
3 Dyma Dafydd yn anfon rhywun i ddarganfod pwy oedd hi, a daeth hwnnw yn ôl gyda'r ateb, “Bathseba ferch Eliam, gwraig Wreia yr Hethiad, ydy hi.”
4 Felly dyma Dafydd yn anfon negeswyr i'w nôl hi. Ac wedi iddi ddod dyma fe'n cael rhyw gyda hi. (Roedd hi newydd fod trwy'r ddefod o buro ei hun ar ôl ei misglwyf.) Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre.
5 Pan wnaeth hi ddarganfod ei bod hi'n feichiog, dyma hi'n anfon neges at Dafydd i ddweud wrtho.
6 Felly dyma Dafydd yn anfon neges at Joab, yn gofyn iddo anfon Wreia yr Hethiad ato. A dyma Joab yn gwneud hynny.
7 Pan gyrhaeddodd Wreia, dyma Dafydd yn ei holi sut oedd Joab a'r fyddin, a beth oedd hanes y rhyfel.
8 Yna dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Dos adre i ymlacio.” A pan adawodd Wreia y palas, dyma'r brenin yn anfon anrheg ar ei ôl.