23 Meddai wrtho, “Daeth milwyr y gelyn allan i ymladd ar y tir agored. Ond dyma ni'n eu gyrru nhw yn ôl yr holl ffordd at giât y ddinas.
24 Ond wedyn dyma'r bwasaethwyr yn saethu o ben y wal, a lladd rhai o dy swyddogion. Roedd dy was Wreia yr Hethiad yn un ohonyn nhw.”
25 Dyma Dafydd yn dweud wrth y negesydd, “Dywed wrth Joab, ‘Paid poeni am y peth. Fel yna mae hi mewn rhyfel. Rhai'n cael eu lladd, eraill ddim. Brwydra'n galetach yn erbyn y ddinas, a'i choncro!’ Annog e yn ei flaen!”
26 Pan glywodd Bathseba fod ei gŵr wedi marw, bu'n galaru amdano.
27 Ond wedi i'r cyfnod o alaru ddod i ben, dyma Dafydd yn anfon amdani a dod â hi i'w balas. Dyma hi'n dod yn wraig iddo, a chafodd fab iddo.Doedd yr ARGLWYDD ddim yn hapus o gwbl am beth roedd Dafydd wedi ei wneud,