1 a dyma fe'n anfon y proffwyd Nathan at Dafydd. Daeth ato a dweud wrtho: “Un tro roedd yna ddau ddyn yn byw yn rhyw dre. Roedd un yn gyfoethog a'r llall yn dlawd.
2 Roedd gan y dyn cyfoethog lond gwlad o ddefaid a gwartheg.
3 Ond doedd gan y dyn tlawd ddim ond un oen banw fach roedd wedi ei phrynu a'i magu. Roedd yr oen wedi tyfu gydag e a'i blant. Roedd yn bwyta ac yn yfed gyda nhw, ac yn cysgu yn ei freichiau, fel petai'n ferch fach iddo.
4 “Cafodd y dyn cyfoethog ymwelydd. Ond doedd e ddim am ladd un o'i ddefaid neu ei wartheg ei hun i wneud bwyd iddo. Felly dyma fe'n cymryd oen y dyn tlawd a gwneud pryd o fwyd i'w ymwelydd o hwnnw.”