11 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i greu helynt i ti o fewn dy deulu dy hun. Bydda i'n cymryd dy wragedd di a'u rhoi nhw i ddyn arall. Bydd e'n cysgu gyda dy wragedd di yn gwbl agored.
12 Er dy fod ti wedi trïo cuddio beth wnest ti, bydd pobl Israel i gyd yn gweld beth dw i'n mynd i'w wneud!’”
13 Dyma Dafydd yn ateb, “Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.”A dyma Nathan yn ateb, “Wyt, ond mae'r ARGLWYDD wedi maddau y pechod yma. Dwyt ti ddim yn mynd i farw.
14 Ond am dy fod ti wedi bod mor amharchus o'r ARGLWYDD, bydd y plentyn gafodd ei eni yn marw.”
15 Yna aeth Nathan yn ôl adre.Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud y babi gafodd gwraig Wreia i Dafydd yn sâl iawn
16 A dyma Dafydd yn mynd ati i bledio'n daer ar yr ARGLWYDD i'w wella. Roedd yn mynd heb fwyd, ac yn cysgu ar lawr bob nos.
17 Daeth ei gynghorwyr ato i geisio ei berswadio i godi oddi ar lawr, ond gwrthod wnaeth e, a gwrthod bwyta dim gyda nhw.