22 Atebodd Dafydd, “Tra roedd y plentyn yn dal yn fyw ron i'n ymprydio ac yn crïo. Ro'n i'n meddwl falle y byddai'r ARGLWYDD yn tosturio ac yn gadael i'r plentyn fyw.
23 Ond nawr mae e wedi marw. Does dim pwynt gwrthod bwyd bellach. Alla i ddim dod ag e'n ôl. Bydda i yn mynd ato fe, ond wnaiff e ddim dod yn ôl ata i.”
24 Yna dyma Dafydd yn mynd i gysuro ei wraig, Bathseba. Cysgodd gyda hi a cael rhyw gyda hi. Cafodd fab iddo, a dyma nhw'n ei alw'n Solomon. Roedd yr ARGLWYDD yn caru'r plentyn,
25 a dyma fe'n rhoi neges drwy'r proffwyd Nathan yn dweud ei fod i gael ei alw'n Iedida, sef “Mae'r ARGLWYDD yn ei garu.”
26 Roedd Joab yn dal i ryfela yn erbyn Rabba, prifddinas yr Ammoniaid, a llwyddodd i ddal y gaer frenhinol.
27 Anfonodd neges at Dafydd, “Dw i wedi ymosod ar Rabba, ac wedi cipio cronfa ddŵr y ddinas.
28 Mae'n bryd i ti gasglu gweddill y fyddin, a dod yma i warchae ar y ddinas. Wedyn ti fydd wedi ei choncro, nid fi, a fydd hi ddim yn cael ei henwi ar fy ôl i.”