6 Rhaid iddo roi pedwar oen yn ôl i'r dyn tlawd am wneud y fath beth, ac am fod mor ddideimlad!”
7 A dyma Nathan yn ateb Dafydd, “Ti ydy'r dyn! Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Fi wnaeth dy osod di yn frenin ar Israel. Fi hefyd wnaeth dy achub di oddi wrth Saul.
8 Dw i wedi rhoi eiddo dy feistr i ti, a'i wragedd. A dyma fi'n rhoi pobl Israel a Jwda i ti hefyd. A petai hynny ddim yn ddigon byddwn wedi rhoi lot mwy i ti.
9 Pam wyt ti wedi fy sarhau i, yr ARGLWYDD, drwy wneud peth mor ofnadwy? Ti wedi lladd Wreia yr Hethiad, a chymryd ei wraig yn wraig i ti dy hun. Ie, ti wnaeth ei ladd, gyda chleddyf yr Ammoniaid!
10 Felly bydd cysgod y cleddyf arnat ti a dy deulu bob amser. Ti wedi fy sarhau i drwy gymryd gwraig Wreia yr Hethiad i ti dy hun!’
11 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i greu helynt i ti o fewn dy deulu dy hun. Bydda i'n cymryd dy wragedd di a'u rhoi nhw i ddyn arall. Bydd e'n cysgu gyda dy wragedd di yn gwbl agored.
12 Er dy fod ti wedi trïo cuddio beth wnest ti, bydd pobl Israel i gyd yn gweld beth dw i'n mynd i'w wneud!’”