1 Yna beth amser wedyn digwyddodd hyn:Roedd gan Absalom, mab Dafydd, chwaer o'r enw Tamar, oedd yn arbennig o hardd. Roedd Amnon, mab arall i Dafydd, yn ei ffansïo hi.
2 Roedd ei deimladau ati mor gryf roedd yn gwneud ei hun yn sâl. Roedd Tamar wedi cyrraedd oed priodi ac yn wyryf, ond doedd Amnon ddim yn gweld unrhyw ffordd y gallai e ei chael hi.
3 Roedd gan Amnon ffrind o'r enw Jonadab (mab Shamma, brawd Dafydd). Roedd Jonadab yn ddyn cyfrwys iawn.
4 Dyma fe'n gofyn i Amnon, “Beth sy'n bod? Ti ydy mab y brenin. Pam wyt ti mor ddigalon drwy'r amser? Wnei di ddim dweud wrtho i beth sydd?” A dyma Amnon yn ateb, “Dw i mewn cariad hefo Tamar, chwaer Absalom.”
5 Yna dyma Jonadab yn dweud wrtho, “Dos i orwedd ar dy wely ac esgus bod yn sâl. Wedyn, pan fydd dy dad yn dod i dy weld, dywed wrtho, ‘Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i wneud bwyd i mi. Gad iddi ei baratoi o'm blaen i, ac wedyn fy mwydo i.’”
6 Felly dyma Amnon yn mynd i'w wely a smalio bod yn sâl. Daeth y brenin i'w weld, a dyma Amnon yn dweud wrtho, “Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i baratoi cacennau sbesial o'm blaen i, ac wedyn fy mwydo i.”
7 Dyma Dafydd yn anfon neges at Tamar yn y palas, yn dweud wrthi am fynd i dŷ ei brawd Amnon i wneud bwyd iddo.