2 Felly dyma fe'n anfon rhywun i nôl gwraig ddoeth oedd yn byw yn Tecoa. Meddai wrthi, “Dw i eisiau i ti esgus dy fod yn galaru. Rho ddillad galar amdanat, peidio gwisgo colur, a gwneud i ti dy hun edrych fel rhywun sydd wedi bod yn galaru am amser hir iawn.
3 Yna dos at y brenin a dweud fel yma: …” (A dyma Joab yn dweud wrthi yn union beth i'w ddweud.)
4 Felly dyma'r wraig o Tecoa yn mynd at y brenin. Aeth ar ei gliniau ac ymgrymu o'i flaen gyda'i hwyneb ar lawr. “Plîs helpa fi, o frenin.”
5 “Beth sy'n bod?” meddai Dafydd. A dyma hi'n ateb, “Gwraig weddw ydw i. Mae'r gŵr wedi marw.
6 Roedd gen i ddau fab, a dyma nhw'n dechrau ymladd allan yng nghefn gwlad. Doedd yna neb o gwmpas i'w gwahanu, a dyma un yn taro'r llall a'i ladd.
7 A nawr mae aelodau'r clan i gyd wedi troi yn fy erbyn i, ac yn mynnu, ‘Rho dy fab i ni. Rhaid iddo farw am lofruddio ei frawd.’ Ond fe ydy'r etifedd. Os gwnân nhw hynny, bydd y fflam olaf sydd gen i wedi diffodd! Fydd yna neb ar ôl i gadw enw'r gŵr yn fyw.”
8 Dyma'r brenin Dafydd yn dweud wrth y wraig, “Dos adre. Gwna i setlo'r achos i ti.”