22 Dyma Joab yn ymgrymu â'i wyneb ar lawr o flaen y brenin, a diolch iddo. Meddai wrtho, “Heddiw dw i'n gwybod fod gen ti ffydd yno i, dy was. Ti wedi caniatáu fy nghais i.”
23 Felly dyma Joab yn mynd i lawr i Geshwr a dod ag Absalom yn ôl i Jerwsalem.
24 Ond roedd y brenin wedi dweud, “Rhaid iddo fynd i'w dŷ ei hun. Gaiff e ddim fy ngweld i.” Felly dyma Absalom yn mynd i'w dŷ ei hun, heb gael gweld y brenin.
25 Roedd Absalom yn cael ei ystyried y dyn mwyaf golygus yn Israel. Dyn cryf, iach, gyda'r corff perffaith.
26 Roedd yn arfer torri ei wallt yn fyr bob blwyddyn am fod ei wallt wedi tyfu mor drwchus. Ar ôl torri ei wallt byddai'n ei bwyso, ac roedd dros ddau gilogram (yn ôl y safon brenhinol).
27 Roedd gan Absalom dri mab ac un ferch. Enw'r ferch oedd Tamar, ac roedd hi'n ferch arbennig o hardd.
28 Roedd Absalom wedi bod yn Jerwsalem am ddwy flynedd heb gael gweld y brenin,