25 Roedd Absalom yn cael ei ystyried y dyn mwyaf golygus yn Israel. Dyn cryf, iach, gyda'r corff perffaith.
26 Roedd yn arfer torri ei wallt yn fyr bob blwyddyn am fod ei wallt wedi tyfu mor drwchus. Ar ôl torri ei wallt byddai'n ei bwyso, ac roedd dros ddau gilogram (yn ôl y safon brenhinol).
27 Roedd gan Absalom dri mab ac un ferch. Enw'r ferch oedd Tamar, ac roedd hi'n ferch arbennig o hardd.
28 Roedd Absalom wedi bod yn Jerwsalem am ddwy flynedd heb gael gweld y brenin,
29 a dyma fe'n anfon neges at Joab i geisio'i gael i drefnu iddo gael gweld y brenin. Ond roedd Joab yn gwrthod mynd ato. Dyma fe'n anfon amdano eto, ond roedd Joab yn dal i wrthod mynd.
30 Felly dyma Absalom yn dweud wrth ei weision, “Mae gan Joab gae o haidd nesa at fy nhir i. Ewch i'w roi ar dân.” A dyma weision Absalom yn gwneud hynny.
31 Aeth Joab ar ei union i dŷ Absalom. “Pam mae dy weision di wedi rhoi fy nghae i ar dân?” meddai.