6 Roedd gen i ddau fab, a dyma nhw'n dechrau ymladd allan yng nghefn gwlad. Doedd yna neb o gwmpas i'w gwahanu, a dyma un yn taro'r llall a'i ladd.
7 A nawr mae aelodau'r clan i gyd wedi troi yn fy erbyn i, ac yn mynnu, ‘Rho dy fab i ni. Rhaid iddo farw am lofruddio ei frawd.’ Ond fe ydy'r etifedd. Os gwnân nhw hynny, bydd y fflam olaf sydd gen i wedi diffodd! Fydd yna neb ar ôl i gadw enw'r gŵr yn fyw.”
8 Dyma'r brenin Dafydd yn dweud wrth y wraig, “Dos adre. Gwna i setlo'r achos i ti.”
9 A dyma'r wraig yn dweud wrth y brenin, “Os bydd unrhyw broblem, arna i a'm teulu mae'r bai. Does dim bai o gwbl ar fy meistr y brenin a'i orsedd.”
10 Ond dyma'r brenin yn ateb, “Os bydd unrhyw un yn cwestiynu'r peth, gwna i ddelio gydag e. Fydd e ddim dy blagio di byth eto!”
11 A dyma hi'n gofyn, “Plîs wnei di addo i mi o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw, na fydd y perthynas agosaf yn mynnu dial ar fy mab a tywallt mwy o waed eto?”“Ar fy llw,” meddai'r brenin, “fydd neb yn cyffwrdd blewyn o wallt ei ben!”
12 Yna dyma'r wraig yn gofyn, “Plîs ga i ddweud un peth arall wrthot ti, syr?”“Ie, beth?” meddai'r brenin.