1 Beth amser wedyn dyma Absalom yn paratoi cerbyd a cheffylau iddo'i hun, a pum deg o warchodwyr personol.
2 Byddai'n codi'n fore a sefyll ar ochr y ffordd wrth giât y ddinas. Pan oedd unrhyw un yn dod heibio gydag achos cyfreithiol i'w setlo gan y brenin, byddai Absalom yn ei alw draw. Byddai'n gofyn iddo, “Un o ble wyt ti?” Os oedd hwnnw'n dweud ei fod yn perthyn i un o lwythau Israel,
3 byddai Absalom yn dweud wrtho, “Gwranda, mae gen ti achos cryf, ond does gan y brenin neb ar gael i wrando arnat ti.”
4 Wedyn byddai'n ychwanegu, “Piti na fyddwn ni'n cael fy ngwneud yn farnwr yn y wlad yma! Byddai pawb oedd ag achos ganddo yn gallu dod ataf fi. Byddwn i'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael tegwch.”