13 Daeth neges at Dafydd i ddweud fod pobl Israel wedi troi at Absalom.
14 Felly dyma Dafydd yn dweud wrth ei swyddogion yn Jerwsalem, “Rhaid i ni ffoi, neu wnawn ni ddim dianc oddi wrth Absalom. Dewch! Brysiwch i ni adael, rhag iddo'n dal ni a lladd pawb yn y ddinas!”
15 Dyma'r swyddogion yn ateb, “Bydd dy weision yn gwneud beth bynnag mae ein meistr, y brenin, yn ei benderfynu.”
16 Felly dyma'r brenin yn gadael, a'i deulu a'i staff i gyd gydag e. Ond gadawodd ddeg o'i gariadon i edrych ar ôl y palas.
17 Wrth iddo fynd, a'r bobl i gyd yn ei ddilyn, dyma nhw'n aros wrth y Tŷ Pellaf.
18 Safodd yno tra roedd ei warchodlu i gyd yn mynd heibio (Cretiaid a Pelethiaid) a'r chwe chant o ddynion oedd wedi ei ddilyn o Gath. Wrth iddyn nhw fynd heibio
19 dyma'r brenin yn galw ar Itai (oedd o Gath), “Pam ddylet ti ddod gyda ni? Dos yn ôl ac aros gyda'r brenin newydd. Un o'r tu allan wyt ti, yn alltud ac yn bell oddi cartref.