18 Safodd yno tra roedd ei warchodlu i gyd yn mynd heibio (Cretiaid a Pelethiaid) a'r chwe chant o ddynion oedd wedi ei ddilyn o Gath. Wrth iddyn nhw fynd heibio
19 dyma'r brenin yn galw ar Itai (oedd o Gath), “Pam ddylet ti ddod gyda ni? Dos yn ôl ac aros gyda'r brenin newydd. Un o'r tu allan wyt ti, yn alltud ac yn bell oddi cartref.
20 Dim ond newydd gyrraedd wyt ti. Alla i ddim gwneud i ti grwydro o le i le ar fy ôl i! Dos yn ôl, a dos â dy bobl gyda ti. A boed i'r Duw ffyddlon dy amddiffyn di.”
21 Ond dyma Itai yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a'm meistr y brenin yn fyw, bydda i'n mynd ble bynnag fyddi di'n mynd – hyd yn oed os fydd hynny'n golygu marw gyda ti.”
22 A dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Dos yn dy flaen, felly.” Ac aeth Itai yn ei flaen gyda'i ddynion i gyd a'u teuluoedd.
23 Roedd pawb yn crïo'n uchel wrth i'r fyddin fynd heibio. Dyma'r brenin yn croesi Nant Cidron ac aethon nhw i gyd ymlaen i gyfeiriad yr anialwch.
24 Roedd Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid yno, a'r Lefiaid yn cario Arch Ymrwymiad Duw. Dyma nhw'n gosod yr Arch i lawr, a wnaethon nhw ddim ei chodi eto nes oedd y bobl i gyd wedi gadael y ddinas.