20 Dim ond newydd gyrraedd wyt ti. Alla i ddim gwneud i ti grwydro o le i le ar fy ôl i! Dos yn ôl, a dos â dy bobl gyda ti. A boed i'r Duw ffyddlon dy amddiffyn di.”
21 Ond dyma Itai yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a'm meistr y brenin yn fyw, bydda i'n mynd ble bynnag fyddi di'n mynd – hyd yn oed os fydd hynny'n golygu marw gyda ti.”
22 A dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Dos yn dy flaen, felly.” Ac aeth Itai yn ei flaen gyda'i ddynion i gyd a'u teuluoedd.
23 Roedd pawb yn crïo'n uchel wrth i'r fyddin fynd heibio. Dyma'r brenin yn croesi Nant Cidron ac aethon nhw i gyd ymlaen i gyfeiriad yr anialwch.
24 Roedd Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid yno, a'r Lefiaid yn cario Arch Ymrwymiad Duw. Dyma nhw'n gosod yr Arch i lawr, a wnaethon nhw ddim ei chodi eto nes oedd y bobl i gyd wedi gadael y ddinas.
25 Yna dyma'r brenin yn dweud wrth Sadoc, “Dos ag Arch Duw yn ôl i'r ddinas. Os bydd yr ARGLWYDD yn garedig ata i, bydd yn dod â fi'n ôl i'w gweld hi a'i chartref eto.
26 Ond os ydy e'n dweud nad ydy e fy eisiau i bellach, dw i'n fodlon iddo wneud beth bynnag mae eisiau gyda mi.”