25 Yna dyma'r brenin yn dweud wrth Sadoc, “Dos ag Arch Duw yn ôl i'r ddinas. Os bydd yr ARGLWYDD yn garedig ata i, bydd yn dod â fi'n ôl i'w gweld hi a'i chartref eto.
26 Ond os ydy e'n dweud nad ydy e fy eisiau i bellach, dw i'n fodlon iddo wneud beth bynnag mae eisiau gyda mi.”
27 Yna dyma'r brenin yn dweud wrth Sadoc yr offeiriad, “Wyt ti'n deall y sefyllfa? Dos yn ôl i'r ddinas yn dawel fach, ti ac Abiathar a'ch meibion, Achimaats, dy fab di, a Jonathan, mab Abiathar.
28 Bydda i'n aros wrth y rhydau ar y ffordd i'r anialwch nes bydda i wedi clywed gynnoch chi.”
29 Felly dyma Sadoc ac Abiathar yn mynd ag Arch Duw yn ôl i Jerwsalem, ac aros yno.
30 Aeth Dafydd yn ei flaen i fyny Mynydd yr Olewydd, yn crïo wrth fynd. Roedd yn cuddio'i ben a doedd dim am ei draed. Ac roedd pawb arall oedd gydag e wedi gorchuddio'u pennau ac yn crïo hefyd.
31 Pan glywodd Dafydd fod Achitoffel yn un o'r rhai oedd wedi cynllwynio gydag Absalom, dyma fe'n gweddïo, “ARGLWYDD, plîs gwna gyngor Achitoffel yn gyngor gwirion.”