11 A dyma Dafydd yn dweud wrth Abishai a'i swyddogion, “Mae fy mab i fy hun yn ceisio fy lladd i! Meddyliwch! Mae gan y dyn yma o lwyth Benjamin lot mwy o reswm i fod eisiau gwneud hynny! Gadewch lonydd iddo regi os mai'r ARGLWYDD sydd wedi dweud wrtho am wneud hynny.
12 Falle y bydd yr ARGLWYDD yn gweld fy mod i'n cael cam, ac yn gwneud da i mi yn lle'r holl felltithio yma.”
13 Felly aeth Dafydd a'i filwyr yn eu blaenau ar y ffordd. Ond roedd Shimei yn cadw i fyny â nhw ar ochr y bryn gyferbyn, ac yn rhegi a thaflu cerrig a phridd atyn nhw.
14 Roedd y brenin a'r bobl i gyd wedi blino'n lân erbyn iddyn nhw gyrraedd. Felly dyma nhw'n cymryd seibiant.
15 Yn y cyfamser roedd Absalom, a byddin Israel gyfan, wedi cyrraedd Jerwsalem. Roedd Achitoffel gydag e.
16 Yna dyma gynghorydd Dafydd, Chwshai yr Arciad, yn mynd i gyfarch Absalom a dweud, “Hir oes i'r brenin! Hir oes i'r brenin!”
17 Gofynnodd Absalom iddo, “Ai dyma beth ydy bod yn driw i dy ffrind, Dafydd? Pam est ti ddim gydag e?”