10 Bydd hyd yn oed y milwyr mwyaf dewr – y rhai sy'n gryfion fel llewod – yn digalonni. Mae pobl Israel i gyd yn gwybod fod dy dad wedi hen arfer rhyfela, a bod y dynion sydd gydag e yn filwyr profiadol.
11 Dyma fy nghyngor i: Casgla ddynion Israel i gyd at ei gilydd, pawb – o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de (Byddin fydd fel y tywod ar lan y môr, yn amhosib i'w cyfrif!) A dw i'n meddwl y dylet ti dy hun eu harwain nhw i'r frwydr.
12 Wedyn, ble bynnag mae e, byddwn ni'n disgyn arno fel gwlith ar y ddaear. Fydd e na neb arall sydd gydag e yn cael eu gadael yn fyw!
13 A hyd yn oed os bydd e'n llwyddo i ddianc i ryw dref gaerog, bydd dynion Israel yn tynnu'r waliau i lawr gyda rhaffau a llusgo'r dref i lawr i'r ceunant. Fydd dim hyd yn oed un garreg fechan ar ôl!”
14 A dyma Absalom ac arweinwyr Israel yn ymateb, “Mae cyngor Chwshai yn well na chyngor Achitoffel.”A dyna sut gwnaeth yr ARGLWYDD ddrysu cyngor da Achitoffel er mwyn achosi helynt i Absalom.
15 Yna dyma Chwshai yn mynd i ddweud wrth Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid beth oedd cyngor Achitoffel i Absalom, a beth oedd e ei hun wedi ei ddweud.
16 “Felly anfonwch neges ar frys at Dafydd i ddweud wrtho am beidio aros dros nos wrth rydau'r anialwch,” meddai. “Dwedwch wrtho am groesi'r Iorddonen yn syth, rhag ofn iddo fe a phawb sydd gydag e gael eu lladd.”