17 Roedd Jonathan ac Achimaats (meibion yr offeiriaid) yn aros yn En-rogel. Felly byddai morwyn yn mynd â negeseuon iddyn nhw, a hwythau wedyn yn mynd â'r negeseuon ymlaen i'r brenin Dafydd. (Doedd wiw iddyn nhw gael eu gweld yn mynd i mewn i Jerwsalem.)
18 Ond roedd rhyw fachgen ifanc wedi eu gweld nhw, a mynd i ddweud wrth Absalom. Felly dyma'r ddau yn gadael ar frys a mynd i dŷ rhyw ddyn yn Bachwrîm. Roedd gan hwnnw bydew yn ei fuarth, a dyma nhw'n dringo i lawr i'r pydew.
19 Yna dyma wraig y dyn yn rhoi gorchudd dros geg y pydew a taenu grawn drosto, fel bod dim i'w weld.
20 Pan ddaeth gweision Absalom at y tŷ dyma nhw'n gofyn i'r wraig, “Ble mae Achimaats a Jonathan?” A dyma hi'n ateb, “Maen nhw wedi croesi'r nant.” Aeth y dynion i chwilio amdanyn nhw, ond methu dod o hyd iddyn nhw. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Jerwsalem.
21 Pan oedden nhw wedi mynd, dyma Achimaats a Jonathan yn dringo allan o'r pydew a mynd i roi'r neges i'r Brenin Dafydd. Dyma nhw'n dweud wrtho am frysio i groesi'r afon, a beth oedd cyngor Achitoffel yn ei erbyn.
22 Felly dyma Dafydd a'i fyddin yn croesi'r Afon Iorddonen. Roedden nhw i gyd wedi croesi cyn iddi wawrio y bore wedyn.
23 Pan welodd Achitoffel eu bod nhw wedi gwrthod ei gyngor e, dyma fe'n cyfrwyo'i asyn a mynd adre. Ar ôl rhoi trefn ar ei bethau, dyma fe'n crogi ei hun, a cafodd ei gladdu ym medd y teulu.