1 Dyma Dafydd yn casglu'r milwyr oedd gydag e at ei gilydd, a phenodi capteiniaid ar unedau o fil ac o gant.
2 Yna anfonodd nhw allan yn dair catrawd. Roedd un o dan awdurdod Joab, un o dan ei frawd Abishai (mab Serwia), a'r llall o dan Itai o Gath. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dw i'n hun am ddod allan i ymladd gyda chi hefyd.”
3 Ond dyma'r dynion yn ateb, “Na, paid. Petai'n rhaid i ni ffoi am ein bywydau fyddai neb yn malio – hyd yn oed petai hanner y fyddin yn cael eu lladd! Ond rwyt ti'n werth deg mil ohonon ni. Byddai'n fwy o help i ni petaet ti'n aros yn y dre.”
4 Ac meddai'r brenin, “Os mai dyna dych chi'n feddwl sydd orau, dyna wna i.”Yna safodd y brenin wrth giât y dre wrth i'r dynion fynd allan fesul catrawd.