12 Ond dyma'r dyn yn dweud, “Hyd yn oed petawn i'n cael mil o ddarnau arian, fyddwn ni ddim yn cyffwrdd mab y brenin! Clywodd pawb y brenin yn dy siarsio di ac Abishai ac Itai i ofalu am y bachgen Absalom.
13 Petawn i wedi gwneud rhywbeth iddo byddai'r brenin yn siŵr o fod wedi clywed, a byddet ti wedi gadael i mi gymryd y bai!”
14 Dyma Joab yn ateb, “Dw i ddim am wastraffu amser fel yma.” A dyma fe'n cymryd tair gwaywffon a'u gwthio nhw drwy galon Absalom pan oedd yn dal yn fyw yn y goeden.
15 Yna dyma'r deg llanc oedd yn gofalu am arfau Joab yn casglu o gwmpas Absalom a'i ladd.
16 Yna chwythodd Joab y corn hwrdd, a dyma nhw'n rhoi'r gorau i fynd ar ôl byddin Israel am fod Joab wedi eu galw'n ôl.
17 Cafodd corff Absalom ei daflu i bydew dwfn yn y goedwig, a dyma nhw'n gosod pentwr mawr o gerrig drosto. Yn y cyfamser roedd milwyr Israel i gyd wedi dianc am adre.
18 Pan oedd yn dal yn fyw roedd Absalom wedi codi cofgolofn iddo'i hun yn Nyffryn y Brenin am fod ganddo fe ddim mab i gadw ei enw i fynd. Roedd wedi gosod ei enw ei hun arni, a hyd heddiw mae'r golofn yn cael ei galw yn ‛Gofeb Absalom‛.