19 Dyma Achimaats, mab Sadoc, yn gofyn i Joab, “Gad i mi redeg i roi'r newyddion da i'r brenin fod yr ARGLWYDD wedi ei achub o afael ei elynion.”
20 Ond dyma Joab yn ateb, “Na, dim heddiw. Cei fynd rywbryd eto. Dydy e ddim yn newyddion da i'r brenin fod ei fab wedi marw.”
21 Yna dyma Joab yn dweud wrth filwr du o Affrica, “Dos di i ddweud wrth y brenin beth rwyt ti wedi ei weld heddiw.” Ar ôl ymgrymu o flaen Joab i ffwrdd â fe.
22 Ond roedd Achimaats, mab Sadoc, yn dal i grefu ar Joab, “Plîs, plîs, gad i mi fynd hefyd ar ôl y dyn yna o Affrica.” Dyma Joab yn gofyn iddo, “Pam wyt ti mor awyddus i fynd, machgen i? Fydd yna ddim gwobr i ti.”
23 Ond roedd yn dal i bledio, “Plîs, dw i eisiau mynd.” Felly dyma Joab yn gadael iddo fynd. A dyma Achimaats yn rhedeg ar hyd gwastatir yr Iorddonen, a pasio'r Affricanwr.
24 Roedd Dafydd yn eistedd rhwng y giât fewnol a'r giât allanol. Aeth gwyliwr i fyny i ben y to uwchben y giât. Edrychodd allan a gweld dyn yn rhedeg ar ei ben ei hun.
25 A dyma fe'n galw i lawr i ddweud wrth y brenin. A dyma'r brenin yn dweud, “Os ydy e ar ei ben ei hun mae'n rhaid bod ganddo newyddion.”Ond wrth i'r rhedwr ddod yn agosach,