26 dyma'r gwyliwr yn gweld dyn arall. A dyma fe'n galw ar yr un oedd yn gwarchod y giât, “Mae yna ddyn arall yn dod, yn rhedeg ar ei ben ei hun.” A dyma'r brenin yn dweud, “Mae gan hwn newyddion hefyd.”
27 Yna dyma'r gwyliwr yn dweud, “Dw i'n meddwl mai Achimaats fab Sadoc ydy'r rhedwr cyntaf.” A dyma'r brenin yn ateb, “Dyn da ydy e. Mae'n dod â newyddion da.”
28 Yna dyma Achimaats yn cyrraedd a chyfarch y brenin ac ymgrymu â'i wyneb ar lawr o'i flaen, a dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw! Mae wedi trechu'r dynion oedd wedi troi yn erbyn y brenin!”
29 A dyma'r brenin yn gofyn, “Ydy'r bachgen Absalom yn iawn?” Ac meddai Achimaats, “Roedd rhyw helynt mawr pan anfonodd Joab was y brenin a minnau i ffwrdd. Ond dw i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.”
30 “Symud i'r ochr, a sefyll yna” meddai'r brenin. A dyma Achimaats yn gwneud hynny.
31 Yna dyma'r milwr o Affrica yn cyrraedd a dweud, “Newyddion da i'm meistr, y brenin! Mae'r ARGLWYDD wedi dy achub di o afael y rhai oedd wedi codi yn dy erbyn.”
32 A dyma'r brenin yn holi'r dyn, “Ydy'r bachgen Absalom yn iawn?” A dyma fe'n ateb, “O na fyddai dy elynion i gyd a phawb sy'n codi yn dy erbyn fel y dyn ifanc yna!”