3 Ond dyma'r dynion yn ateb, “Na, paid. Petai'n rhaid i ni ffoi am ein bywydau fyddai neb yn malio – hyd yn oed petai hanner y fyddin yn cael eu lladd! Ond rwyt ti'n werth deg mil ohonon ni. Byddai'n fwy o help i ni petaet ti'n aros yn y dre.”
4 Ac meddai'r brenin, “Os mai dyna dych chi'n feddwl sydd orau, dyna wna i.”Yna safodd y brenin wrth giât y dre wrth i'r dynion fynd allan fesul catrawd.
5 A dyma fe'n gweiddi ar Joab, Abishai ac Itai, “Er fy mwyn i, byddwch yn garedig at y bachgen Absalom.” Roedd y fyddin gyfan wedi ei glywed yn rhoi'r gorchymyn yma i'w swyddogion.
6 Dyma nhw'n mynd allan i frwydro yn erbyn byddin Israel. Roedd y brwydro yng Nghoedwig Effraim.
7 A dyma ddilynwyr Dafydd yn gorchfygu byddin Israel. Roedd colledion mawr. Cafodd dau ddeg mil eu lladd y diwrnod hwnnw.
8 Roedd y frwydr wedi lledu i bobman. Ond cafodd mwy o ddynion eu lladd o achos peryglon y goedwig na gafodd eu lladd gan y cleddyf!
9 Yn ystod y frwydr dyma rai o ddynion Dafydd yn dod ar draws Absalom. Roedd yn reidio ar gefn ei ful. Wrth i'r mul fynd o dan ganghennau rhyw goeden fawr, dyma ben Absalom yn cael ei ddal yn y goeden. Aeth y mul yn ei flaen, a gadael Absalom yn hongian yn yr awyr.