14 Llwyddodd i ennill cefnogaeth pobl Jwda i gyd – roedden nhw'n hollol unfrydol. A dyma nhw'n anfon neges at y brenin, “Tyrd yn ôl, ti a dy ddynion i gyd.”
15 Felly dyma'r brenin yn cychwyn am yn ôl. Pan gyrhaeddodd Afon Iorddonen roedd pobl Jwda wedi dod i Gilgal i gyfarfod y brenin a'i hebrwng dros yr afon.
16 Roedd Shimei fab Gera (oedd o Bachwrîm, ac o lwyth Benjamin) wedi brysio i lawr hefyd, gyda phobl Jwda, i gyfarfod y Brenin Dafydd.
17 Roedd mil o ddynion o lwyth Benjamin gydag e, gan gynnwys Siba, gwas teulu Saul, a'i un deg pump mab a dau ddeg o weision. Roedden nhw wedi croesi'r dŵr i gyfarfod y brenin,
18 ac yn cario pethau yn ôl ac ymlaen dros y rhyd, er mwyn helpu teulu'r brenin drosodd ac ennill ei ffafr.Pan groesodd Shimei fab Gera yr afon, dyma fe'n taflu ei hun ar lawr o flaen y brenin,
19 a dweud wrtho, “Paid dal dig wrtho i, syr. Paid meddwl am beth wnes i y diwrnod hwnnw est ti allan o Jerwsalem. Plîs wnei di anghofio'r cwbl.
20 Dw i'n gwybod mod i wedi gwneud peth drwg. Dyna pam mai fi ydy'r cyntaf o deulu Joseff i gyd i ddod i dy gyfarfod di, fy meistr, y brenin.”