24 Roedd Meffibosheth, ŵyr Saul, wedi dod i gyfarfod y brenin hefyd. Doedd e ddim wedi trin ei draed, trimio'i farf, na golchi ei ddillad o'r diwrnod wnaeth y brenin adael Jerwsalem nes iddo gyrraedd yn ôl yn saff.
25 Pan ddaeth e o Jerwsalem i gyfarfod y brenin, dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Pam wnest ti ddim dod gyda mi, Meffibosheth?”
26 Dyma fe'n ateb, “Meistr, fy mrenin. Fy ngwas wnaeth fy nhwyllo i. Am fy mod i'n gloff roeddwn wedi dweud wrtho am gyfrwyo asyn i mi ddod gyda ti.
27 Ond dyma fe'n gadael a dweud celwydd amdana i wrth y brenin. Ond fy mrenin, syr, rwyt ti fel angel Duw. Gwna beth rwyt ti'n feddwl sydd orau.
28 Roedd fy nheulu i gyd yn haeddu cael eu lladd gen ti, ond ces i eistedd i fwyta wrth dy fwrdd di. Sut alla i gwyno?”
29 A dyma'r brenin yn ateb, “Does dim angen dweud dim mwy. Dw i wedi penderfynu fod y tir i gael ei rannu rhyngot ti a Siba.”
30 “Gad iddo fe gymryd y cwbl,” meddai Meffibosheth, “Beth sy'n bwysig i mi ydy dy fod ti, syr, wedi dod yn ôl adre'n saff.”