26 Dyma fe'n ateb, “Meistr, fy mrenin. Fy ngwas wnaeth fy nhwyllo i. Am fy mod i'n gloff roeddwn wedi dweud wrtho am gyfrwyo asyn i mi ddod gyda ti.
27 Ond dyma fe'n gadael a dweud celwydd amdana i wrth y brenin. Ond fy mrenin, syr, rwyt ti fel angel Duw. Gwna beth rwyt ti'n feddwl sydd orau.
28 Roedd fy nheulu i gyd yn haeddu cael eu lladd gen ti, ond ces i eistedd i fwyta wrth dy fwrdd di. Sut alla i gwyno?”
29 A dyma'r brenin yn ateb, “Does dim angen dweud dim mwy. Dw i wedi penderfynu fod y tir i gael ei rannu rhyngot ti a Siba.”
30 “Gad iddo fe gymryd y cwbl,” meddai Meffibosheth, “Beth sy'n bwysig i mi ydy dy fod ti, syr, wedi dod yn ôl adre'n saff.”
31 Roedd Barsilai o Gilead wedi dod i lawr o Rogelîm, ac wedi croesi'r Iorddonen i hebrwng y brenin ar ei ffordd.
32 Roedd yn hen iawn – yn wyth deg mlwydd oed – ac wedi gofalu am y brenin tra roedd yn aros yn Machanaîm. Roedd yn ddyn pwysig iawn.