33 Dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Tyrd gyda mi i Jerwsalem, a gwna i dy gynnal di yno.”
34 Ond dyma Barsilai yn ateb, “Na, does dim pwynt i mi ddod i Jerwsalem. Fydda i ddim byw yn hir iawn eto.
35 Dw i'n wyth deg oed, ac yn dda i ddim i neb. Dw i ddim yn cael yr un blas ar fwyd a diod ag oeddwn i. Alla i ddim clywed dynion a merched yn canu. Pam ddylwn i fod yn fwrn ar fy meistr, y brenin?
36 Gwna i ddod gyda ti beth o'r ffordd yr ochr draw i'r Iorddonen, ond does dim angen i'r brenin roi'r fath wobr i mi.
37 Plîs, gad i mi fynd adre i farw yn y dref lle mae dad a mam wedi cael eu claddu. Ond mae dy was Cimham yma, gad iddo fe fynd gyda ti yn fy lle i, syr. Cei roi beth bynnag wyt eisiau iddo fe.”
38 Dyma'r brenin yn ateb, “Iawn, caiff Cimham ddod gyda mi, a gwna i roi iddo fe beth fyddwn i wedi ei roi ti. A cei dithau beth wyt ti eisiau.”
39 Felly dyma'r bobl i gyd yn croesi'r Iorddonen gyda'r brenin. Roedd y brenin wedi cusanu ffarwél i Barsilai a'i fendithio, ac roedd Barsilai wedi mynd adre.