5 Dyma Joab yn mynd i'r tŷ at y brenin, a dweud, “Mae dy weision wedi achub dy fywyd di a bywydau dy blant, dy wragedd a dy gariadon. A dyma ti, heddiw, yn codi cywilydd arnyn nhw i gyd!
6 Rwyt ti fel petaet ti'n caru'r rhai sy'n dy gasáu, ac yn casáu'r rhai sy'n dy garu di! Mae'n amlwg fod dy swyddogion a'r dynion yma i gyd yn golygu dim i ti. Mae'n siŵr y byddai'n well gen ti petai Absalom yn dal yn fyw, a ninnau i gyd wedi marw!
7 Nawr, dos allan yna i longyfarch ac annog dy weision. Dw i'n addo i ti o flaen yr ARGLWYDD, os na ei di allan fydd gen ti neb ar dy ochr di erbyn heno. Bydd pethau'n waeth arnat ti na fuon nhw erioed o'r blaen!”
8 Felly dyma'r brenin yn codi, a mynd allan i eistedd wrth giât y ddinas. Pan ddywedwyd wrth y bobl, dyma nhw i gyd yn mynd yno i sefyll o'i flaen.Roedd milwyr Israel (oedd wedi cefnogi Absalom) i gyd wedi dianc am adre.
9 Roedd yna lot fawr o drafod a dadlau drwy lwythau Israel i gyd. Roedd pobl yn dweud, “Y brenin wnaeth ein hachub ni o afael ein gelynion. Achubodd ni o afael y Philistiaid, ond mae e wedi ffoi o'r wlad o achos Absalom!
10 A nawr mae Absalom, gafodd ei wneud yn frenin arnon ni, wedi cael ei ladd yn y frwydr. Pam yr oedi? Ddylen ni ddim gofyn i Dafydd ddod yn ôl?”
11 Dyma'r Brenin Dafydd yn anfon neges at Sadoc ac Abiathar, yr offeiriaid: “Gofynnwch i arweinwyr Jwda, ‘Pam ddylech chi fod y rhai olaf i ofyn i mi ddod yn ôl? Dw i wedi clywed fod Israel i gyd yn barod!