1 Beth amser wedyn, dyma Dafydd yn gweddïo ar yr ARGLWYDD a gofyn, “Ddylwn i symud i fyw i un o drefi Jwda?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ie, dos!”. “I ba un?” meddai Dafydd. “I Hebron,” oedd yr ateb.
2 Felly aeth Dafydd yno, gyda'i ddwy wraig, Achinoam o Jesreel ac Abigail, gweddw Nabal o Carmel.
3 A dyma'r dynion oedd wedi bod gydag e, a'u teuluoedd, yn mynd gyda Dafydd i fyw yn y trefi yn ardal Hebron.
4 Yna dyma ddynion Jwda yn dod ac eneinio Dafydd yn frenin ar bobl Jwda.Clywodd Dafydd mai pobl Jabesh yn Gilead oedd wedi claddu Saul.
5 Felly dyma fe'n anfon neges atyn nhw, “Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi am fod mor deyrngar i'ch meistr Saul, a'i gladdu.