2 Felly aeth Dafydd yno, gyda'i ddwy wraig, Achinoam o Jesreel ac Abigail, gweddw Nabal o Carmel.
3 A dyma'r dynion oedd wedi bod gydag e, a'u teuluoedd, yn mynd gyda Dafydd i fyw yn y trefi yn ardal Hebron.
4 Yna dyma ddynion Jwda yn dod ac eneinio Dafydd yn frenin ar bobl Jwda.Clywodd Dafydd mai pobl Jabesh yn Gilead oedd wedi claddu Saul.
5 Felly dyma fe'n anfon neges atyn nhw, “Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi am fod mor deyrngar i'ch meistr Saul, a'i gladdu.
6 Boed i'r ARGLWYDD fod yn garedig a ffyddlon i chi. Dw i hefyd yn mynd i'ch gwobrwyo chi am wneud hyn.
7 Nawr, peidiwch bod ag ofn. Byddwch yn ddewr! Er bod eich meistr, Saul, wedi marw, mae pobl Jwda wedi fy eneinio i yn frenin arnyn nhw.”
8 Yn y cyfamser roedd Abner fab Ner, un o gapteiniaid byddin Saul, wedi cymryd Ish-bosheth, mab Saul, a mynd ag e drosodd i Machanaîm.