29 Y noson honno dyma Abner a'i ddynion yn mynd ar draws yr Araba a chroesi'r Afon Iorddonen. Yna martsio yn eu blaenau drwy'r bore wedyn nes cyrraedd yn ôl i Machanaîm.
30 Wedi i Joab stopio mynd ar ôl Abner, dyma fe'n galw ei filwyr at ei gilydd. Dim ond un deg naw o ddynion Dafydd oedd wedi eu colli, ar wahân i Asahel.
31 Ond roedd milwyr Dafydd wedi rhoi crasfa iawn i ddynion Benjamin, sef byddin Abner – roedd tri chant chwe deg ohonyn nhw wedi eu lladd!
32 Yna dyma Joab a'i filwyr yn cymryd corff Asahel a'i gladdu ym medd ei dad yn Bethlehem. Wedyn dyma nhw'n teithio drwy'r nos a chyrraedd yn ôl i Hebron pan oedd hi'n gwawrio.