11 Dyma un o swyddogion ifanc Joab yn sefyll wrth gorff Amasa a gweiddi, “Pawb sydd o blaid Joab ac yn cefnogi Dafydd, dilynwch Joab!”
12 (Roedd Amasa yn gorwedd yno mewn pwll o waed ar ganol y ffordd.) Pan welodd y swyddog fod y milwyr i gyd yn aros i edrych ar y corff yn lle mynd heibio, dyma fe'n llusgo'r corff o'r ffordd i'r cae a thaflu clogyn drosto.
13 Wedi i'r corff gael ei symud o'r ffordd dyma'r fyddin i gyd yn dilyn Joab i fynd ar ôl Sheba fab Bichri.
14 Roedd Sheba wedi teithio o gwmpas llwythau Israel i gyd, a cyrraedd Abel-beth-maacha. Roedd y llwythau eraill wedi ei wrthod, ond cafodd ei bobl ei hun, y Bichriaid, i'w ganlyn.
15 Yna dyma Joab a'i ddynion yn cyrraedd yno, a gwarchae ar Abel-beth-maacha. Roedden nhw wedi codi ramp yn erbyn wal y dref. Wrth i filwyr Joab geisio torri trwy'r wal a'i chwalu,
16 dyma ryw wraig ddoeth o'r dref yn gweiddi arnyn nhw, “Gwrandwch! Gwrandwch! Dwedwch wrth Joab am ddod yma. Mae gen i rywbeth i'w ddweud wrtho.”
17 Pan aeth Joab ati, dyma'r wraig yn gofyn iddo, “Ai ti ydy Joab?” “Ie,” meddai. A dyma hi'n dweud, “Gwranda, mae gan dy forwyn awgrym.” “Dw i'n gwrando,” meddai.