15 Yna dyma Joab a'i ddynion yn cyrraedd yno, a gwarchae ar Abel-beth-maacha. Roedden nhw wedi codi ramp yn erbyn wal y dref. Wrth i filwyr Joab geisio torri trwy'r wal a'i chwalu,
16 dyma ryw wraig ddoeth o'r dref yn gweiddi arnyn nhw, “Gwrandwch! Gwrandwch! Dwedwch wrth Joab am ddod yma. Mae gen i rywbeth i'w ddweud wrtho.”
17 Pan aeth Joab ati, dyma'r wraig yn gofyn iddo, “Ai ti ydy Joab?” “Ie,” meddai. A dyma hi'n dweud, “Gwranda, mae gan dy forwyn awgrym.” “Dw i'n gwrando,” meddai.
18 A dyma hi'n dweud wrtho, “Mae yna hen ddywediad, ‘Os ydych chi eisiau setlo unrhyw fater, ewch i ofyn cyngor yn Abel.’
19 Dw i'n un o'r rhai ffyddlon sydd eisiau gweld heddwch yn Israel. Ond rwyt ti yma'n ceisio dinistrio un o drefi pwysica'r wlad. Pam wyt ti eisiau difetha tref sy'n perthyn i'r ARGLWYDD?”
20 Dyma Joab yn ateb, “Dim o'r fath beth! Dw i ddim eisiau dinistrio na difetha'r dre!
21 Dim fel yna mae hi o gwbl. Mae yna ddyn o fryniau Effraim o'r enw Sheba fab Bichri wedi troi yn erbyn y brenin Dafydd. Dim ond i chi roi'r dyn hwnnw i mi, gwna i adael llonydd i'r dre.” “Iawn,” meddai'r wraig, “Gwnawn ni daflu ei ben e dros wal y dre i ti!”