20 Dyma Joab yn ateb, “Dim o'r fath beth! Dw i ddim eisiau dinistrio na difetha'r dre!
21 Dim fel yna mae hi o gwbl. Mae yna ddyn o fryniau Effraim o'r enw Sheba fab Bichri wedi troi yn erbyn y brenin Dafydd. Dim ond i chi roi'r dyn hwnnw i mi, gwna i adael llonydd i'r dre.” “Iawn,” meddai'r wraig, “Gwnawn ni daflu ei ben e dros wal y dre i ti!”
22 Felly dyma'r wraig yn rhannu ei chyngor doeth gyda'r bobl. A dyma nhw'n torri pen Sheba fab Bichri, a'i daflu allan i Joab. A dyma Joab yn chwythu'r corn hwrdd, a gadawodd y fyddin y dre ac aeth pawb adre. Aeth Joab ei hun yn ôl i Jerwsalem at y brenin.
23 Joab oedd pennaeth byddin gyfan Israel. Benaia fab Jehoiada oedd yn arwain gwarchodlu personol y brenin (Cretiaid a Pelethiaid).
24 Adoniram oedd yn gyfrifol am y gweithlu gorfodol. Jehosaffat fab Achilwd oedd cofnodydd y brenin.
25 Shefa oedd yr Ysgrifennydd Gwladol. Sadoc ac Abiathar oedd yr offeiriaid.
26 Ac Ira o deulu Jair oedd caplan personol Dafydd.